Stori Trystan Nid yw Trystan yn hoffi cael ei wahanu oddi wrth ei ddwy fam, ddim hyd yn oed i fynd i'r ysgol. Wrth i'r ddwy fam ddechrau colli amynedd gyda'i ymddygiad plentynaidd, a fydd Trystan yn gallu dysgu sut i ymdopi yn annibynol?
Stori Elis Mae OCD yn rheoli bywyd Elis, ond pan gaiff wahoddiad i ddathlu penblwydd ei ffrind Sion mewn campfa focsio, mae'n penderfynu gwynebu ei ofnau.
Stori Jac Pan fu Anni, chwaer Jac farw, fe wnaeth ei rieni ei rwystro rhag mynd i'r angladd. Mae Jac yn teimlo'n drist iawn, ond a fydd yn gallu perswadio'i rieni i siarad gydag ef am y peth, a chofio'r atgofion hapus?
Stori Lola Bob dydd, mae Lola'n creu gwyneb newydd iddi hi ei hun cyn mynd allan o'r tŷ, ond a fydd hi'n gallu perswadio ei Mam a'i Mamgu fod hyn yn fwy nag obsesiwn am golur?
Stori Samson Mae Samson wrth ei fodd yn ffermio gyda'i daid, ond un diwrnod, mae taid yn cael damwain ar ei dractor ac yn gorfod treulio wythnosau yn yr ysbyty. Sut fydd Samson yn ymdopi gyda hyn, ag a fydd o'n gallu dychwelyd i ffermio gyda'i daid?
Stori Cai a Celyn Mae Cai ar fin mynd ar wyliau sgio gyda'r ysgol, ond wrth i'r teulu geisio cyrraedd y maes awyr, mae defodau OCD ei chwaer, Celyn, yn eu dal nôl. A wnaiff Cai gyrraedd y maes awyr mewn pryd?
Stori Casi Mae Casi wrth ei bodd yn chwarae pêl droed, ond a fydd ei phobia o daflu i fyny yn rhwystr iddi pan mae'n cael cynnig treial gyda Chlwb Pêl Droed Lerpwl?
Stori Seren Mae Seren yn ddisgybl A serennog, ond wrth iddi gael ei dal yn y canol rhwng ei rhieni sy'n cweryla drwy'r amser, y gwaith ysgol, gweithio ym mwyty ei thad, a'r ffaith ei bod yn symud ty - sut fydd Seren yn ymdopi gyda hyn oll?