Stori Cai a Celyn Mae Cai ar fin mynd ar wyliau sgio gyda'r ysgol, ond wrth i'r teulu geisio cyrraedd y maes awyr, mae defodau OCD ei chwaer, Celyn, yn eu dal nôl. A wnaiff Cai gyrraedd y maes awyr mewn pryd?
Stori Elis Mae OCD yn rheoli bywyd Elis, ond pan gaiff wahoddiad i ddathlu penblwydd ei ffrind Sion mewn campfa focsio, mae'n penderfynu gwynebu ei ofnau.